Rhif y ddeiseb: P-06-1273

Teitl y ddeiseb: Lleihau amseroedd amser am ambiwlansys ac mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ddirfawr

Testun y ddeiseb:

Roedd yn rhaid i fy nhad aros 13 awr ar ôl cael strôc ddifrifol.  Rhan o’r broblem oedd bod ambiwlansys yn cael eu dal yn ôl yr adrannau Damweiniau ac Achosion Brys am oriau lawer yn aros i drosglwyddo cleifion. Mae’r broblem wedi’i briodoli i brinder gwelyau a staff.  Oherwydd bod fy nhad wedi gorfod aros cyhyd, mae’r siawns y bydd yn gwella yn llai.

Roedd hon yn eitem newyddion ar BBC Wales Today, BBC radio Wales a gwefan BBC Wales. . Cafodd adran newyddion y BBC gadarnhad gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru fod yr amseroedd yn gywir, ac maent wedi ymddiheuro.  Rwy’n aros i’w gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth logio galwadau ymateb

 

 


1.        Cefndir

1.1.            Perfformiad yn ôl safonau amseroedd aros ar gyfer adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a’r gwasanaethau Ambiwlans

Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthygl ymchwil ar Ddangosyddion Perfformiad Iechyd yng Nghymru.. Dyma’r targedau ar gyfer yr amser y mae cleifion yn ei dreulio mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys :

§  95 y cant o gleifion i dreulio llai na 4 awr ym mhob cyfleuster gofal brys o’r amser y byddant yn cyrraedd tan y byddant yn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau; 

§  dim un claf i dreulio 12 awr neu fwy mewn cyfleuster gofal brys mewn ysbyty o’r amser y byddant yn cyrraedd tan y byddant yn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau;

Mae'r tabl isod yn dangos perfformiad yn ôl y targed o 4 awr:

Tabl 1:Canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau cyn pen pedair awr yn adrannau achosion brys y GIG (Cymru gyfan), rhwng Mawrth 2017 a Mawrth 2022.

Chart, line chart  Description automatically generated

Ffynhonnell: Crynodeb o weithgaredd a pherfformiad y GIG Llywodraeth Cymru: Chwefror a Mawrth 2022

Dyma’r categorïau a’r targedau mewn perthynas ag amseroedd ymateb ambiwlansys:

§  Coch: Pan mae bywyd yn y fantol (mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon). Y targed i Gymru gyfan yw bod yn rhaid ymateb i 65 y cant o'r galwadau hyn cyn pen 8 munud.

§  Oren: Difrifol, ond nid oes bygythiad uniongyrchol i fywyd y claf. Bydd y galwadau hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o achosion meddygol a thrawma, fel poenau cardiaidd yn y frest, strôc neu dorri asgwrn. Nid oes targed o ran amser ar gyfer galwadau oren;

§  Gwyrdd: Nid yw’r rhain yn achosion brys. Gallant gynnwys pobl sydd wedi llewygu (wedi dadebru ac yn effro), mân anafiadau neu bigyn clust. Nid oes targed o ran amser ar gyfer y galwadau hyn.

Mae Tabl 2 isod yn dangos perfformiad yn ôl y targed ar gyfer galwadau coch.

Tabl 2:Canran y galwadau coch yr ymatebodd y gwasanaeth ambiwlans iddynt cyn pen 8 munud (Cymru gyfan), Mawrth 2016 - Mawrth 2022 

Graphical user interface, chart, line chart  Description automatically generated

Ffynhonnell: Crynodeb o weithgaredd a pherfformiad y GIG Llywodraeth Cymru: Chwefror a Mawrth 2022

Cyhoeddir ystod ehangach o Ddangosyddion Ansawdd y Gwasanaeth Ambiwlans hefyd gan StatsCymru a Phwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru. Mae dangosyddion 32-36 yn ymwneud â’r hysbysiad ynghylch trosglwyddo cleifion cyn pen 15 munud ar ôl cyrraedd yr ysbyty, yn ogystal â’r oriau a gollwyd oherwydd oedi cyn trosglwyddo’r claf, fel y nodir yn Nhabl 3:

Tabl 3:Canran yr hysbysiadau ynghylch trosglwyddo cleifion cyn pen 15 munud ar ôl i’r ambiwlans gyrraedd yr ysbyty a’r oriau a gollwyd oherwydd oedi cyn trosglwyddo’r claf - Cymru gyfan

Mis

Canran yr hysbysiadau ynghylch trosglwyddo cleifion cyn pen 15 munud

Oriau ambiwlans a gollwyd oherwydd oedi cyn trosglwyddo’r claf

Hydref 2021

22.4%

18,234

Tachwedd 2021

22.6%

18,160

Rhagfyr 2021

22.5%

18,773

Ionawr 2022 

19.9%

22,563

Chwefror 2022

18.8%

23,232

Mawrth 2022

18.7%

24,479

Ffynhonnell: Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Ym mis Tachwedd 2018, cyhoeddodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru adolygiad o’r galwadau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru a gaiff eu rhoi yn y categori Oren.  Roedd Rhaglen Gweithredu’r Adolygiad wedi bod yn arwain gwaith i hybu mesurau seiliedig ar amser ar gyfer strôc ac, yn wreiddiol, roedd disgwyl i’r rhain gael eu cyhoeddi ‘ddechrau 2020’, ond nid oes dim casgliadau wedi’u cyhoeddi hyd yma.

Dylid mesur perfformiad yn ôl targedau yng nghyd-destun y cynnydd sydyn yn y nifer sy’n mynd i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a nifer y galwadau brys i’w gwasanaethau ambiwlans ar gyfartaledd bob dydd.

Nid yw'r problemau hyn o ran perfformiad yn unigryw i Gymru, ac rydym wedi clywed yn ddiweddar am y pwysau drwy’r DU o safbwynt amseroedd aros am ambiwlans ac oedi cyn trosglwyddo cleifion mewn adrannau Achosion Brys.

1.2.          Adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)  gasgliadau’r Adolygiad o Ddiogelwch, Preifatrwydd, Urddas a Phrofiad Cleifion Wrth Aros mewn Ambiwlansys pan fydd Oedi wrth Drosglwyddo Gofal. Gwelwyd bod profiadau cleifion yn gadarnhaol ar y cyfan ond nodwyd hefyd nifer o feysydd a oedd yn peri pryder:

Daeth ein hadolygiad i'r casgliad bod oedi hir wrth drosglwyddo gofal yn rheolaidd y tu allan i adrannau achosion brys ledled Cymru.  Mae'n amlwg bod yr oedi hwn, yn ogystal â'r ffaith bod prosesau yn amrywio rhwng byrddau iechyd ac y tu mewn iddynt, yn cael effaith niweidiol ar allu'r system gofal iechyd i roi gofal ymatebol, diogel, effeithiol ac urddasol i gleifion. 

Er bod disgwyliadau a chanllawiau clir i GIG Cymru eu dilyn, yn ogystal ag awydd clir i ddilyn y canllawiau hyn, mae heriau sylweddol sy'n rhwystro ymdrechion i wneud hyn yn gyson. Er bod prosesau trosglwyddo gofal yn debyg mewn adrannau achosion brys ledled Cymru at ei gilydd, gwelsom nifer o enghreifftiau o'r prosesau hyn yn cael eu haddasu am amrywiaeth o resymau[…]

Roedd y rhesymau hyn yn cynnwys amrywiaeth yn y modd roedd adrannau wedi’u cynllunio, rolau staff a nifer y staff a oedd ar gael, a diffyg eglurder ynghylch cyfrifoldeb dros ofalu am gleifion cyn eu trosglwyddo. Dywedodd AGIC fod:

[…]angen gwneud gwaith sylweddol ar y cyd er mwyn datrys yr oedi hir wrth drosglwyddo gofal, sy'n un agwedd ar y problemau ehangach sy'n ymwneud â llif cleifion ym mhob rhan o GIG Cymru.

1.3.          Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ryddhau cleifion o ysbytai

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ymchwiliad yn ddiweddar, sef Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai. Clywodd y Pwyllgor gan amrywiaeth o gyrff y GIG a chyrff proffesiynol, yn ogystal â’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wrth y Pwyllgor mai Rhagfyr 2021 oedd y mis gwaethaf erioed o ran achosion o oedi; roedd 25 y cant o’r cerbydau a oedd ar gael yn segur oherwydd oedi cyn trosglwyddo cleifion mewn adrannau brys ac roedd y criwiau’n aros gyda’r cleifion yng nghefn eu hambiwlansys y tu allan i adrannau brys ar hyd a lled Cymru.  Yn ei gyflwyniad i'r ymchwiliad, dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod y pandemig wedi dwysáu’r gwendidau strwythurol sy’n amlwg eisoes yn y system iechyd a gofal. 

Dywedodd  Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd fod yr oedi cyn rhyddhau cleifion yn effeithio’n uniongyrchol ar y gallu i sicrhau llif cleifion drwy’r ysbyty ac, yn y pen draw, ni fydd y sefyllfa’n gwella oni bai bod byrddau iechyd, gofal sylfaenol, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a’r sector gofal cymdeithasol yn cydweithio i ddarparu gofal ar y cyd i gleifion. Roedd hyn yn adleisio’r dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor gan dystion eraill, a oedd hefyd yn pwysleisio bod angen gweithio ar y cyd, gwella’r cymorth sydd ar gael i gleifion yn y gymuned, a lleihau’r angen i ddefnyddio ambiwlansys a’r gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys.

2.     Ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb

Ar 27 Ebrill 2022, ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.  Mae’r Gweinidog yn dweud nad oes neb yn fodlon ar amseroedd ymateb ambiwlansys a bod y cyfnodau o oedi cyn trosglwyddo cleifion yn dal yn her sylweddol ar safleoedd ar hyd a lled Cymru. Gall hyn, meddai, effeithio ac nifer yr ambiwlansys sydd ar gael. Mae’n nodi hefyd:

A range of local and system-wide factors contribute to these delays, including reduced physical capacity within emergency departments, increased levels of demand, and pressures elsewhere in the system. These delays are often a visible symptom of wider pressures across the health and care system and require collective and collaborative action by Health Boards alongside the Welsh Ambulance Service, to promote preventative approaches, better management of people’s needs in the community and improved ‘flow’ of patients through hospital and home as soon as it is safe for them to so.

Mae’r Gweinidog yn rhestru’r camau sy’n cael eu cymryd mewn nifer o feysydd, gan gynnwys:

§  Recriwtio dros 250 o staff ambiwlans rheng flaen a 36 o glinigwyr i weithio ar y ddesg cymorth clinigol;

§  Cyllid ychwanegol o £15 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021 ar gyfer 111 o gerbydau brys newydd;

§  Ehangu gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDEC) cenedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y nod yw lleihau’r nifer y mae angen iddynt aros mewn ysbyty dros nos oherwydd argyfwng gofal iechyd erbyn mis Ebrill 2023;

§  Cynllun 'Ailosod y system genedlaethol,' pythefnos o hyd, yn ystod mis Mawrth 2022 i ddatblygu ffyrdd o wella perfformiad ar draws y system gofal heb ei drefnu.

Mae’r Gweinidog hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng: llawlyfr polisi 2021 - 2026 yn ddiweddar. Mae’n cynnwys blaenoriaethau a chamau gweithredu i wella gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng “drwy drawsnewid y system gyfan”. Mae nod 4, sef: Ymateb cyflym os oes argyfwng corfforol neu argyfwng iechyd meddwl yn cynnwys y blaenoriaethau a ganlyn:

§  Cynyddu nifer yw ambiwlansys sydd ar gael i sicrhau bod pobl sy’n ffonio 999 ac yr ystyrir bod eu bywydau yn y fantol neu fod ganddynt anhwylderau sensitif o ran amser yn cael blaenoriaeth, yn cael y math iawn o ymateb cyflym ac yn cael eu cludo i’r lle iawn ar gyfer gofal pwrpasol er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau. Bydd amseroedd ymateb canolrifol (cyfartalog) ar gyfer pobl yn y categorïau coch ac oren yn gwella o un flwyddyn i’r llall hyd at fis Ebrill 2026.

§  Gwella cyfraddau trosglwyddo cleifion o ambiwlansys, gan sicrhau nad oes neb sy’n cyrraedd Adran Achosion Brys mewn ambiwlans yn gorfod aros mwy na 60 munud o’r adeg y byddant yn cyrraedd hyd nes y cânt eu trosglwyddo i ddwylo clinigwr - erbyn diwedd Ebrill 2025. Bydd y nifer sy'n aros mwy na 60 munud cyn cael eu trosglwyddo o’r ambiwlans yn lleihau bob blwyddyn tan hynny.

Mae’r strategaeth Chwe Nod hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd mabwysiadu dulliau ataliol, gan bwysleisio’r angen i sicrhau bod “pobl ag anghenion gofal brys neu ofal mewn argyfwng yn gallu cael mynediad at ofal priodol a diogel yn agos at eu cartref, gyda chymaint o barhad gofal â phosibl. Dim ond pan fo hynny’n angenrheidiol yn glinigol y dylid rhoi gwely acíwt i bobl sydd angen gofal parhaus”, a nodir:

Bydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn goruchwylio cynllun cyflawni a fydd yn cynnwys canolbwyntio ar ddarparu llwybrau amgen ac atebion cymunedol yn ddi-oed er mwyn lleihau’n ddiogel achosion y gellir eu hosgoi o gludo pobl i adrannau argyfwng

Mae’r strategaeth yn datgan bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl  y bydd y blaenoriaethau’n cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl yng nghyd-destun argyfwng iechyd cyhoeddus Covid-19, ac o fewn y cerrig milltir a bennwyd.   Mae’r Gweinidog wedi dweud y bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wneir drwy'r rhaglen chwe nod cyn toriad yr haf.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.